kalimah.top
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

robat arwyn – anfonaf angel كلمات اغاني

Loading...

[pennill 1]
mae hymian hwyr y ddinas yn fy neffro
am eiliad, rwyf yn credu dy fod yno
a chlywaf alaw isel, dy lais yn galw’n dawel

[cytgan]
anfonaf angel, i dy warchod di
anfonaf angel, i dy warchod heno
anfonaf angel, i’th gysuro di
mae swn dy lais yn ddigon, i chwalu’r holl amheuon
anfonaf angel atat ti

[pennill 2]
ac ambell waith, yng nghanol berw bywyd
rwy’n teimlo’n unig ac yn isel hefyd
ond pan rwyf ar fy nglinia’, fe welaf drwy fy nagra, a chofio’r eiria, ddywedaist wrthai i

[cytgan]
anfonaf angel, i dy warchod heno
anfonaf angel, i’th gysuro di
mae swn dy lais yn ddigon, i chwalu’r holl amheuon
anfonaf angel atat ti

[pennill 3 / pont]
ti yw yr angel sydd yma yn wastadol, yn gofalu amdanaf, lle bynnag y byddaf
ti yw fy angel, fy angel gwarcheidiol
dw i’n cofio’r geiriau, ddywedaist wrtha i
[cytgan hir]
anfonaf angel, i dy warchod heno
anfonaf angel i’th gysuro di
mae swn dy lais yn ddigon, i chwalu’r holl amheuon
anfonaf angel atat ti
anfonaf angel, i dy warchod heno
anfonaf angel i’th gysuro di
mae swn dy lais yn ddigon, i chwalu’r holl amheuon
anfonaf angel atat ti
anfonaf angel atat ti

كلمات أغنية عشوائية

اهم الاغاني لهذا الاسبوع

Loading...