kalimah.top
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

plethyn – twll bach y clo كلمات اغاني

Loading...

roedd cap nos yr eira ar gopa pob bryn
a rhew wedi gwydro pob dwr, ffos a llyn
a gwenno’n gweu hosan wrth olau’r tân glo
a huwcyn oedd yn aros wrth dwll bach y clo

clywch, clywch, fechgyn, clywch, clywch, clywch!
mae’r cathod yn mewian yn uwch ac yn uwch

y gath oedd yn gorwedd yn dwrch ar y mat
a’r tad yn pesychu wrth smocio ei giat
y fam oedd yn ffraeo fel dynas o’i cho’
a huwcyn oedd yn crynu wrth dwll bach y clo

clywch, clywch, fechgyn, clywch, clywch, clywch!
mae’r cathod yn mewian yn uwch ac yn uwch
y fam oedd yn ffraeo fel dynas o’i cho’
a huwcyn oedd yn crynu wrth dwll bach y clo

y fam yn methu deall fod gwenno mewn gwanc
mor wirion â charu rhyw lefan o lanc
a huwcyn yn gwybod mai hwnnw oedd o
a’i galon fach yn crynu wrth dwll bach y clo

clywch, clywch, fechgyn, clywch, clywch, clywch!
mae’r cathod yn mewian yn uwch ac yn uwch
a huwcyn yn gwybod mai hwnnw oedd o
a’i galon fach yn crynu wrth dwll bach y clo

y tad aeth i fyny i’r lloffta uwchben
a’r fam roes agoriad y drws dan ei phen
ond gwenno arhosodd i nyddu’r tân glo
‘rôl dwedyd gair yn ddistaw bach drwy dwll bach y clo

clywch, clywch, fechgyn, clywch, clywch, clywch!
mae’r cathod yn mewian yn uwch ac yn uwch
ond gwenno arhosodd i nyddu’r tân glo
‘rôl dwedyd gair yn ddistaw bach drwy dwll bach y clo

‘roedd swn y dylluan fel boda yn y coed
a’r ci bach yn cyfarth wrth glywed swn troed
a huwcyn yn dianc fel lleidr ar ffo
‘rôl dwedyd gair yn ddistaw bach drwy dwll bach y clo

clywch, clywch, fechgyn, clywch, clywch, clywch!
mae’r cathod yn mewian yn uwch ac yn uwch
a huwcyn yn dianc fel lleidr ar ffo
‘rôl dwedyd gair yn ddistaw bach drwy dwll bach y clo

a chyn pen y flwyddyn roedd gwenno jones yn wraig
a huwcyn yn hwsmon i fferm tan-y-graig
a chanddynt un baban, y glana’n y fro
ac arno roedd man geni – llun twll bach y clo!

clywch, clywch, fechgyn, clywch, clywch, clywch!
mae’r cathod yn mewian yn uwch ac yn uwch
a chanddynt un baban, y glana’n y fro
ac arno roedd man geni – llun twll bach y clo!

كلمات أغنية عشوائية

اهم الاغاني لهذا الاسبوع

Loading...