kalimah.top
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

dafydd iwan – ai am fod haul yn machlud كلمات اغاني

Loading...

ai am fod haul yn machlud
mae deigryn yn llosgi fy ngrudd?
neu ai am fod nos yn bygwth
rhoi terfyn ar antur y dydd?
neu ai am fod côr y goedwig
yn distewi a mynd yn fud?
neu ai am i rywun fy ngadael
rwyf innau mor unig fy myd?

ai am fod golau’r lleuad
yn oer ar ruddiau’r nos?
neu ai am fod oerwynt gerwin
yn cwyno uwch manwellt y rhos?
neu ai am fod cri’r gylfinir
yn distewi a mynd yn fud?
neu ai am i rywun fy ngadael
rwyf innau mor dywyll fy myd?

ond os yw yr haul wedi machlud
mae gobaith yng ngolau’r lloer
a chysgod yn nwfn y cysgodion
i’m cadw rhag y gwyntoedd oer
ac os aeth cri’r gylfinir
yn un â’r distawrwydd mawr
mi wn y daw rhywun i gadw
yr oed cyn toriad y wawr

كلمات أغنية عشوائية

اهم الاغاني لهذا الاسبوع

Loading...