cowbois rhos botwnnog – mor ddrwg â hynny كلمات اغاني
o, allai ddim g’neud mwy tra ma’r dyddia’ ‘di malu,
dwi’n dechra’ teimlo’n frau, teimlo’n hunan yn torri.
uwchben y llestri bron bob dydd,
tyfu’n ddwl wrth ddisgw’l am ddim byd.
dwi jest yn meddwl fod ‘y nghroen i’n meddalu,
wrth sbio ‘r y stryd drwy y crac yn y llenni.
jest gad ‘mi gael fy ngwên, gad i mi gael ias,
o glywad bod gras yn ein gwaed ni hyd.
os ti’n gallu gweld lle mae’r graith ar ‘i gwaetha’,
gei di fyw fel tasa hi’m yna.
ti’n d’eud ei fod o’n hawdd, ond ‘dio ddim i mi,
tydi o ddim i mi.
paid d’eud mod i mor ddrwg â hynny,
paid d’eud mod i mor ddrwg.
dwi’m yn teimlo’n unig tra ma’r strydoedd yn llifo
dros ein cyrff llonydd ni; melyn, du, wedyn heibio.
dim heno ma’ hi’n troi a throsi eto,
‘i theimlo hi’n gorfadd rhy boeth yn ei chwsg.
rhy ddiog i helpu; dwi ‘di mynd, dwi ‘di torri.
ma’r byd lawr y lôn, ond ma’r teledu’n y gwely.
mwy o lwch dan ‘y nghroen i bob dydd,
tyfu’n ddwl wrth ddisgw’l am ddim byd.
wyt ti’n gallu gweld sut y gall rhywun flino
ar weld ei hun fel bob un fu o’i flaen o?
dwi angen gw’bod bod ‘na r’wbath ar ôl,
‘chos dwi’n meddwl bod ‘na r’wbath ar ôl.
paid d’eud mod i mor ddrwg â hynny,
paid d’eud mod i mor ddrwg.
كلمات أغنية عشوائية
- xanman › xanman – servin (snippet) كلمات اغاني
- chloe adams once monsters › chloe adams & once monsters – messed up كلمات اغاني
- laley › laley – en casa كلمات اغاني
- jeembo › jeembo – 1000 ножей (1000 knives) كلمات اغاني
- q money › q money – make a jugg كلمات اغاني
- wyatt counterman › wyatt counterman – i need you كلمات اغاني
- sabrina everett › sabrina everett – all i need كلمات اغاني
- maino › maino – party & pain كلمات اغاني
- marsiell › marsiell – reasons كلمات اغاني
- 8th day › 8th day – the money room كلمات اغاني