kalimah.top
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

bendith – danybanc كلمات اغاني

Loading...

mae’r hen le wedi mynd yn llai
neb ar ol ond un neu ddau
gorfod derbyn taw fel ‘na mae _
un drws yn agor, y llall yn cau

rwy’n cofio pan
o’n ni yn blant
yn chwarae lawr
yn danybanc

gorwedd lawr a breuddwydio
ar y porfa wrth yr hen bont
a swn y dwr yn rhedeg dano
ambell i gar yn gyrru heibio

rwy’n cofio pan
o’n ni yn blant
yn chwarae lawr
ar bwys y nant
y dyddiau pan
o’n ni yn fach
yn chwarae lawr
yn danybanc

atgofion cynnes yn fy nghalon
o’m hoff lefydd a’m hoff bobol
darnau’r blanced o’r gorffennol
amdanai’n dynn am y dyfodol

rwy’n cofio pan
o’n ni yn blant
yn chwarae lawr
ar bwys y nant
y dyddiau pan
o’n ni yn fach
yn chwarae lawr
yn danybanc

y dyddiau pan
o’n ni yn fach
yn chwarae lawr
yn danybanc

كلمات أغنية عشوائية

اهم الاغاني لهذا الاسبوع

Loading...