kalimah.top
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

skylrk. - adfywio. كلمات الأغنية

Loading...

adfywio
dwi’n ail_lywio’r ganfas
gyda gwyn dros gwallau
ail_adeiladu
darlun newydd dwi’n ddylunio
ail_bapuro
breuddwydion newydd
dwi’n dymuno am ddyddiau gwell
ond dwi dal i
dwi dal i
ail_ddyhuno yn yr un hen ddydiadu brau
dwi’n gaeth i ni’n dau
damwain a cerbyd fy ngof yn chwalu
talu y pwyth. atgofion cydd
yn amlygu ei hyn
wrth i mi redeg lawr y lon
o lovers re_imagined
ailgydio yn y teimlad
a’r dydd i hwyr doddi
fe ddaw
baw yn treiddio o’m ymennydd
dwi angen llaw i afael
i ail ymuno a bodlaeth
ond dal, distawrwydd
dwi angen llywydd i fy nheimladau
meddylfryd ar chwâl
fe ddaeth dy lais ar amser perffaith
eistedd a pendroni
am dy enaid
am dy wefusau
yn ddiweddar
yn fy mhen, ti’n crwydro
dwi angen dy afael
dy fwytho, dy lwytho
cymer fy ngalon
a’i rwygo hi eildro
dwi angen adfywiad
ail fywyd
ail ddechreuad
ail fyw’r eiliadau yn dy lygaid

ond ti llawеr gwell yn fy mhen
yn ddiben clir
i’r tydalеnau brau
ti’n un, ti’n ddau, ti’n dri
ti’n parhau
yn ailadrodd dy hyn
yw ti’n dymuno
ail gysylltu a’r dyn
a helpodd dy ddagrau
dychmygol oedd yn yn ddi stop
yn y gorffennol
sy’n arwain at y dyfodol
dwi’n syllu’n ddall
ar dy gorff yn gorwedd
drwy wydur sy’n fudur a’r staen
odda ti’n galw’n fywyd
cymylau sy’n fy ngario yn ddiweddar
carpion sy’n eistedd ar fy sgerbwd
dwi’n cadw dan y grisiau
yn achlysurol na’i dynnu fo allan
i gael sgwrs i gadw fy hyn yn iach
i gael dawns yng ngolau’r mynyddoedd brau
dwi’n llipa a’r goleadau’ n toddi wrth i mi
dy weld yn boddi a’r dwr yn llenwi fy llgadau
fe ddaw y dydd i ben
diddymu anghenion ffug
ail gydia yn dy ffawd
ail gydia yn dy hyn

a dyma’r adfywiad
ail fywyd
ail ddechreuad
ail gydio’n dyn yn
ffawd fy enaid
a dyma’r adfywiad
ail fywyd
ail ddechreuad
ail gydio’n dyn yn
ffawd fy enaid

كلمات أغنية عشوائية

كلمات الأغاني الشهيرة

Loading...