kalimah.top
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

melin melyn - dail

Loading...

dail o fy nghwmpas am bleser
i glirio pen ac atgasedd
gei di’m moddion gwell na dail

am amrywiaeth sydd i ddail
rhai yn llyfn rhai yn bigog
fel rhyw lindys neu ddraenog
am gymeriadau heb eu hail

o am hyfryd yw’r holl ddail
os yn crensian fel creision ŷd o dan fy nhraed
neu’n dawnsio’n yr awel ar eu canghennau
o diolch am y dail

am swyddogaeth sydd gan ddail
i amsugno’r holl lygredd
cyn rhyddhau i ni burdeb
ar ôl torheulo’n yr haul

trist yw’r adeg pan fo’r dail
yn crebachu yn brownio
yn gadael y brigau yn gwingo
yn ysu eto i gael eu haddurno gan ddail

pwy ddiawl ‘sa’n gwastraffu y fraint
o gael cwmni fel
dail dail dail dail
dail dail dail dail
dail dail dail dail
dail

كلمات أغنية عشوائية

كلمات الأغاني الشهيرة

Loading...