
i fight lions - calon dan glo كلمات أغنية
[geiriau i ‘calon dan glo’]
[pennill 1]
trio bob dim, ond dal, mae’r ateb ‘r’un fath
trio bod yn glyfar, trio bod yn graff
ond yn amlwg fydd na’m plesio rhai
yn amlwg fydd na’m plesio chditha chwaith
ti ‘di dod i benderfyniad ers tro
ti’n bengaled, ti’n ddi_droi’n_ôl
a fedrai’m dal dy sylw di
i ddangos pa mor ffôl yw hyn i gyd
[cyn_gorws]
di cael hen ddigon
o gael yr un dadleuon dro ‘r ôl tro
[corws]
ti’n ddall i’r gwalla’n dy feddylia di
be sy’n gelwydd, be sy’n wir?
wyt ti ‘di syrffedu ar fod yn iawn o hyd?
gad i fi dy helpu di
[pennill 2]
trio bob dim, ond dal, mae’r ateb ‘r’un fath
‘di chwara’n fudur, ‘di chwara hi’n saff
ond yn amlwg, fydd na’m plesio rhai
dwi’n pregethu i’r troëdig fwy neu lai
ti dal i ganu o’r un llyfr emynau
byth ddim byd newydd, mond yr hen ffefrynau
tra ma’r byd o d’amgylch di
yn esblygu mwy a mwy pob dydd
[cyn_gorws]
di cael hen ddigon
o gael yr un dadleuon dro ‘r ôl tro
[corws]
ti’n ddall i’r gwalla’n dy feddylia di
be sy’n gelwydd, be sy’n wir?
wyt ti ‘di syrffedu ar fod yn iawn o hyd?
gad i fi dy helpu di
[pont]
mi ddwedodd hi “cariad, yr angerdd yw’r allwedd i’r galon dan glo”
ond roedd hi’sio wbath haws, eisiau calon agored rhyw gariad dros dro
mi ddwedodd hi “cariad, yr angerdd yw’r allwedd i’r galon dan glo”
ond eto pan rois i fy angerdd, chefais i’m byd yn ôl
ches i’m byd yn ôl
[corws]
ti’n ddall i’r gwalla’n dy feddylia di
be sy’n gelwydd, be sy’n wir?
wyt ti ‘di syrffedu ar fod yn iawn o hyd?
gad i fi dy helpu di
ti’n ddall i’r gwalla’n dy feddylia di
be sy’n gelwydd, be sy’n wir?
wyt ti ‘di syrffedu ar fod yn iawn o hyd?
gad i fi dy helpu di
كلمات أغنية عشوائية
- big ant dog b.a.d - pedo charles (james charles diss track) كلمات أغنية
- feu (tur) - keşke كلمات أغنية
- tobe nwigwe - give it back كلمات أغنية
- juan burillo - clockwise كلمات أغنية
- ember 600 - air jordans (journey thru life) كلمات أغنية
- djeemy reduzi x jeuneras - comme des glaçons كلمات أغنية
- makena (band) - better days كلمات أغنية
- dotjakob - super evol كلمات أغنية
- jack vidgen - pray كلمات أغنية
- wombbath - underneath the rotten soil كلمات أغنية