kalimah.top
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

ffa coffi pawb - sega segur كلمات أغنية

Loading...

roedd ganddi gar kitch a thennyn a b_tch ar y pen
roedd hi’n hogan gref wrthi’n cario ei bedd ar ei chefn
ac ar ol cymryd ‘e’ gormod
doedd na’r un cyffur na wermod
a’r gallu i adfer ei meddwl yn ol fel y bu

a nath hi sylweddoli
mod i’n sylweddoli
fod hi’n sylweddoli
mod i’n sylweddoli
fod rhaid sylweddoli y gred
fod angen byw’n ara deg

roedd ganddi sega segur wrthi’n eistedd ar ei silff ben tan
roedd hi’n arfer lladd y patrymau bach gwyrdd ar y sgrin
ac ar ol saethu sawl pixel
ei hysbryd aeth yn isel
a gwelodd fod trais mond yn gwaethygu’r glais yn ei phen

a nath hi sylweddoli
mod i’n sylweddoli
fod hi’n sylweddoli
mod i’n sylweddoli
fod rhaid sylweddoli y gred
fod angen byw’n ara deg
meddwl yn ddwys, am ddim byd o bwys
yw amcan fy ymenydd
yfory efallai drenydd, fe dyfa i adenydd
ond dwi’n cael trafferth credu
mewn unrhyw dduw tra bod teledu
ma’n haws dilyn hysbysebu na dilyn iesu

sega segur, sega segur…

كلمات أغنية عشوائية

كلمات الأغنية الشائعة حالياً

Loading...