kalimah.top
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

ffa coffi pawb - hydref yn sacramento كلمات أغنية

Loading...

wel mae hi’n hydref yn sacramento
ac mae’r awyr yn glir
mae ‘na lwch rhwng dannedd fy ngheffyl
ac mae nhafod yn sych

dwi’n mynd i fyny i’r bar agosaf
i leddfu fy mhoen
o’r deg ar hugain bwled
sy’n sownd dan fy nghroen

dwi’n mynd i fyny i gael gwared o’m mreuddwyd dwl
dwi’n mynd i fyny i fyfyrio a meddwl
dwi’n colli gafael ar reolaeth fy ffrindiau hen
a swi’n cael blas ar chwarae y gem

wel mae na hydref cas i bob dyn
ond rhaid gafael yn dynn
i holl frwdfrydedd cryf ieuenctid
sy’n diflannu mor chwim

ac os dwi’n cuddio rhag realaeth
mae rhaid i ti ddeall
mae yr unig reswm dros hyn
yw fod bywyd mor hallt

كلمات أغنية عشوائية

كلمات الأغنية الشائعة حالياً

Loading...