kalimah.top
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

datblygu - llawenydd diweithdra كلمات الأغنية

Loading...

llawenydd diweithdra
llawenydd diweithdra

mae’r newyddion yn dweud ei fod yn drist
pan fod gweithle yn cau lawr
peidiwch a fy niflasu gyda’ch celwyddau mawr
a celwydd yw’r newyddion gwych
pan mae rhyw ffatri’n agor lan
fel un americanaidd neu un llawn artaith o j_pan

mae llawenydd diweithdra yn well nag unrhyw gaethweisdra sy’n cael ei gynnig gan yr adran gwaith a phensiynau
mae llawenydd diweithdra yn curo pob gwaith swyddfa neu unrhyw swydd ffatri gallai feddwl amdano
amser i’ch hunain heb y rheolau’n profocio
amser i’ch hunain heb y rheolau’n profocio
mae llawenydd diweithdra llawer wеll na gweithio

pan yr oeddwn yn ifanc gofynon nhw weithiau bеth oedd fy uchelgais, o nhw’n mynd ar fy nerfau
fy unig uchelgais oedd cael fy ngadael yn llonydd
i beth o ni am i heb eu arswyd aflonydd

felly rwy mewn diweithdra ac rwy’n troi bant y radio
rhywbeth gwael hall & oates sydd yn anodd anghofio

rwy’n anghofio bob bos
y dynion a’r menywod
pob un cyfweliad a phob un cyfarfod
y dyddiau o fflem, aspirin a choffi
ond bellach yr wyf yn cael fy ngadael yn llony’
ac er bod y strydoedd llawn oerfel cyfalafiaeth
sdim cawl a dillad y fyddin iachawdwriaeth
mae llawenydd diweithdra yn pisho ar bob gyrfa
a doeddwn i byth am fod yn un o’r dyrfa
sai am fod mewn ffatri a sai am fod mewn swyddfa
jyst am fod mewn llawenydd diweithdra

mae llawenydd diweithdra yn well nag unrhyw gaethweisdra sy’n cael ei gynnig gan yr adran gwaith a phensiynau

ac rwy’n troi bant y radio
rhywbeth gwael hall & oates sydd yn anodd anghofio

ac anghofio bob bos
anghofio bob bos
anghofio bob bos
pob un cyfweliad a phob un cyfarfod
llawenydd diweithdra

كلمات أغنية عشوائية

كلمات الأغاني الشهيرة

Loading...