kalimah.top
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

datblygu - gazpacho lyrics

Loading...

aros am focs pren mewn car du i gymryd rhai eraill cyn ein cymryd ni
rwy’n hapus fan yma efo’r gwin yn fy nghwpan
sa’ i am fynd i america, dwi wedi darllen [?]
fy hunllefau ar dap, fy hunllefau mewn inc
mor boenus ac amlwg â’r twll yn fy sinc
rwy’n taflu’r teipiadur a’r radio i’r gwter
anwybyddu y barbwr a dweud hwyl fawr i’r rasel
b_st_rd an0beithiol oedd fy enw canol
cyn i fi ei enwi yn rhywbeth gwahanol
cantorion fel fi, wel, ni methu canu
dim ond edmygu angel â dim amdani
actorion fel fi, ni methu actio
jyst dweud y gwir, caru, trystio

a pisho gazpacho ar fedd valentino
yfed a smygu a rhyfeddu, dihuno
dwi byth yn cael gormod, byth yn cael digon
o pisho y gwin mewn i fae ceredigion
pisho gazpacho ar fedd valentino
rwy jyst yn pisho gazpacho ar fеdd valentino
tra fod rhai yn lladd moch, a rhai yn prisio tato
rwy jyst yn pisho gazpacho ar fedd valentino
caru, trystio, caru, trystio
a pisho gazpacho ar fеdd valentino

methu troi y dŵr yn win
rwy methu troi y dŵr yn win
ond rwy’n troi y gwin yn ddŵr fy hun
hei cariad, dal fy llaw, rwy’n rhyfeddu ti yma
cusana fi eto, dwi am droi yn froga
a sa’ i byth wedi treisio, dwi jyst wedi trystio
nawr dwi’n pisho gazpacho ar fedd valentino
mae’r gwleidyddiaeth yn chwydu o’r blydi radio
diana ross yn chwydu o’r blydi radio
a nid oes terfysgaeth, na heddlu ffug
nid oes llywodraeth mewn cymru rhydd
a hwn yw’r jazz, o straen y caneuon
rwy’n ceisio ysgrifennu beibl i’r deillion
cysgod gene vincent yn fy siaced ledr
etifeddais ei boen, etifeddais ei hunllef
ar noson fel heno, rwy wedi danto
ar pisho gazpacho ar fedd valentino
a hwn yw’r jazz o straen y caneuon
dwi jyst yn ceisio ysgrifennu beibl i’r deillion
tra’n aros am y bocs pren mewn car du
i gymryd nhw cyn cymryd fi
o rwy’n pisho gazpacho
pisho gazpacho

كلمات أغنية عشوائية

اهم الاغاني لهذا الاسبوع

Loading...