kalimah.top
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

dafydd iwan - pam fod eira yn wyn? كلمات أغنية

Loading...

pan fydd haul ar y mynydd
pan fydd gwynt ar y môr
pan fydd blodau yn y perthi
a’r goedwig yn gôr

pan fydd dagrau f’anwylyd
fel gwlith ar y gwawn
rwy’n gwybod, bryd hynny
mai hyn sydd yn iawn

rwy’n gwybod beth yw rhyddid
rwy’n gwybod beth yw’r gwir
rwy’n gwybod beth yw cariad
at bobol ac at dir

felly peidiwch â gofyn eich cwestiynau dwl
peidiwch edrych arna i mor syn
dim ond ffŵl sydd yn gofyn
pam fod eira yn wyn

pan fydd geiriau fy nghyfeillion
yn felys fel y gwin
a’r seiniau mwyn, cynefin
yn dawnsio ar eu min

pan fydd nodau hen alaw
yn lleddfu fy nghlyw
rwy’n gwybod beth yw perthyn
ac rwy’n gwybod beth yw byw
rwy’n gwybod beth yw rhyddid
rwy’n gwybod beth yw’r gwir
rwy’n gwybod beth yw cariad
at bobol ac at dir

felly peidiwch â gofyn eich cwestiynau dwl
peidiwch edrych arna i mor syn
dim ond ffŵl sydd yn gofyn
pam fod eira yn wyn

pan welaf graith y glöwr
a’r gwaed ar y garreg las
pan welaf lle bu’r tyddynnwr
yn cribo gwair i’w das

pan doliar bren y gorthrwm
am wddf y bachgen tlawd
rwy’n gwybod bod rhaid i minnau
sеfyll dros fy mrawd

rwy’n gwybod beth yw rhyddid
rwy’n gwybod beth yw’r gwir
rwy’n gwybod beth yw cariad
at bobol ac at dir

fеlly peidiwch â gofyn eich cwestiynau dwl
peidiwch edrych arna i mor syn
dim ond ffŵl sydd yn gofyn
pam fod eira yn wyn
felly peidiwch â gofyn eich cwestiynau dwl
peidiwch edrych arna i mor syn
dim ond ffŵl sydd yn gofyn
pam fod eira yn wyn

كلمات أغنية عشوائية

كلمات الأغنية الشائعة حالياً

Loading...