
bwncath - haws i'w ddweud كلمات أغنية
‘dw i ‘di ista yng ngwaelod pydew du fy nghalon i
yn syllu lle bu’r goelcerth gynt yn llosgi
a’r hyn o goed oedd gen i ar ôl
‘di gwlychu yn y stormydd
a’r rheiny yn ailgychwyn yn dragywydd
‘dw i ‘di treulio oria’ maith yn ceisio cynna’r tân
heb ddim ond dagrau poeth o wreichion mân
ond chdi ddoth draw fel haul ‘rôl glaw
a sychu wnaeth y coed
a’r tân sy’n llosgi fwy na ‘rioed
ond mae’n haws i’w ddweud nac ydi o’i wneud
i afael yn dy law
a’r gwyntoedd sy’n fy erbyn i
yn chwythu yma a thraw
ma’ ‘na dywydd gwell ar y gorwel pell
tu hwnt i’r gwynt a’r glaw
dy ola’ sy’n fy arwain i
i’r dyddia’ gwyn a ddaw
o’n i’n teimlo weithia’ mod i’n dechra’ colli ffydd
a hynny yn dibynnu ar y tywydd
ond chdi ddoth draw fel haul ‘rôl glaw
a sychu wnaeth y coed
a’r tân sy’n llosgi’n fwy na’r ‘rioed
ond mae’n haws i’w ddweud nac ydi o’i wneud
i afael yn dy law
a’r gwyntoedd sy’n fy erbyn i
yn chwythu yma a thraw
ma’ ‘na dywydd gwell ar y gorwel pell
tu hwnt i’r gwynt a’r glaw
dy ola’ sy’n fy arwain i
i’r dyddia’ gwyn a ddaw
ond mae’n haws i’w ddweud nac ydi o’i wneud
i afael yn dy law
a’r gwyntoedd sy’n fy erbyn i
yn chwythu yma a thraw
ma’ ‘na dywydd gwell ar y gorwel pell
tu hwnt i’r gwynt a’r glaw
dy ola’ sy’n fy arwain i
i’r dyddia’ gwyn a ddaw
dy ola’ sy’n fy arwain i
i’r dyddia’ gwyn a ddaw
كلمات أغنية عشوائية
- patrick wolf - don't say no كلمات أغنية
- patrick wolf - eulogy كلمات أغنية
- patrick wolf - get lost كلمات أغنية
- patrick wolf - ghost song كلمات أغنية
- patrick wolf - jacob's ladder كلمات أغنية
- patrick wolf - land's end كلمات أغنية
- patrick wolf - london كلمات أغنية
- patrick wolf - magic position كلمات أغنية
- patrick wolf - magpie كلمات أغنية
- patrick wolf - paris كلمات أغنية