kalimah.top
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

bwncath - barti ddu lyrics

Loading...

ar longau pren y lladron
pob gŵr sy’n graig ei galon
a phris eu pennau’n pwyso’n drwm bob dydd

ond wrth fod yn adlewyrchol
mae i’w weld yn dra derbyniol
i dalu’r pris bach hwn am fywyd rhydd

o barti ddu
wrth ‘mi weld drwy dy lygaid di
dw i’n gweld dy long a’i hwyliau gwynion ar y lli
o barti ddu
tria weld drwy fy llygaid i
mi welai’r don ond does dim rhyddid arni hi

gwêl dyn heb dir i’w goncro
ni aiff un ennyd heibio
cyn iddo droi ei olygon at y dŵr

er na allai godi pebyll
a’i faner ni all sefyll
fe fynnai ei berchnogaeth hyn sy’n siŵr

o barti ddu
wrth ‘mi weld drwy dy lygaid di
dw i’n gweld dy long a’i hwyliau gwynion ar y lli
o barti ddu
tria weld drwy fy llygaid i
mi welai’r don ond does dim rhyddid arni hi
rwyt ti yn ddibynnol ar dy griw
iddyn nhw a dy long yr wyt yn driw
am hyn mae dy ddwylo ar y llyw
ac i chdi dyna’r unig ffordd i fyw

rwyt ti yn ddibynnol ar dy griw
iddyn nhw a dy long yr wyt yn driw
am hyn mae dy ddwylo ar y llyw
ac i chdi dyna’r unig ffordd i fyw

o barti ddu
wrth ‘mi weld drwy dy lygaid di
dw i’n gweld dy long a’i hwyliau gwynion ar y lli
o barti ddu
tria weld drwy fy llygaid i
mi welai’r don ond does dim rhyddid arni hi

mi wela i’r don
ond does dim rhyddid arni hi

كلمات أغنية عشوائية

اهم الاغاني لهذا الاسبوع

Loading...