kalimah.top
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

bwncath - allwedd كلمات الأغنية

Loading...

dyma’r allwedd i fy nghalon, dyna chdi
paid â dangos hwn i neb
a paid â son ‘mod i di rhoi o i chdi
os ‘dyn nhw gofyn, dydw i heb

eistedda’i lawr a gwranda arna i
ma’ gen i rhywbeth dwi isio ei ddeud
a dwi’m yn siŵr iawn be dwi’n addo’n fa’ma i chdi
dwi’m yn siŵr iawn be dwi’n ‘neud

nes i’m disgwyl i chdi grio, deud y gwir
doedd gen i’m bwriad mynd ymh_ll
ella nes i ddim esbonio’n hun yn glir
fyswn i ‘di gallu ‘neud yn well

eistedda’i lawr a gwranda arna i
ma’ gen i rhywbeth dwi isio ei ddeud
does gen ti’m hawl i droi dy gefn arna i
dim ar ôl be ti ‘di ‘neud

o, paid â dod yn ôl i weld y llanast dwi ‘di wneud, oh
o, ma’ pawb yn gweld y gwir yn ôl eu hanes mae nhw’n ddeud

eistedda’i lawr a gwranda arna i
ma’ gen i rhywbeth dwi isio ei ddeud
does gen ti’m hawl i droi dy gefn arna i
dim ar ôl be ti ‘di wneud
o, paid â dod yn ôl i weld y llanast dwi ‘di wneud, oh
o, ma’ pawb yn gweld y gwir yn ôl eu hanes mae nhw’n ddeud

cwyd dy hun o’r baw
gwêl y heulwen draw
ar ôl gwynt a’r glaw
drwy dy galon ffydd a ddaw

cwyd dy hun o’r baw
gwêl y heulwen draw
ar ôl gwynt a glaw
drwy dy galon ffydd a ddaw

كلمات أغنية عشوائية

كلمات الأغاني الشهيرة

Loading...